Flying Start & Pre school - Dechrau'n Deg a Chyn Ysgol

Ein Hystafell Chwarae i Blant 2–3 oed

Mae'r ystafell chwarae hon yn helpu plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd wrth roi cyfle i blant ddysgu, datblygu a chwarae.

Mae ein hystafell chwarae yn arbenigo mewn gofalu am blant 2–3 oed, gan gynnig safon uchel iawn o ofal a dysgu i blant. Bydd yna gyfleoedd i blant archwilio a datblygu mewn amgylchedd gofalgar a phroffesiynol.

Yn yr ystafell chwarae, ymdrechwn i adeiladu ar yr hyn y mae eich plentyn eisoes yn ei wybod, gan gynnig cyfleoedd i ehangu eu dysg a datblygu gwybodaeth trwy brofiadau newydd. Bydd prif berson eich plentyn yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu a datblygu, a bydd hyn yn cael ei gyfuno â siarad â rhieni/gofalwyr ac annog teuluoedd i rannu sylwadau am eu plentyn.

Bydd hyn yn ein helpu i gynnig gweithgareddau ac amgylchedd sy’n codi hunan-barch plant ac yn rhoi hyder iddyn nhw wneud dewisiadau iach.

Yn yr ystafell chwarae hon, cynigiwn:

Dechrau'n Deg: 12.5 awr o ofal a ariennir yn ystod y tymor yn unig ar gyfer rhieni cymwys.

Cynnig Gofal Plant Cymru: 20 awr o ofal plant a ariennir yng Nghymru yn ystod y tymor am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae hyn yn cynyddu i 30 awr o ofal plant wedi'i ariannu am hyd at wyth wythnos o'r gwyliau ysgol i rieni cymwys.

Gofal cofleidiol: Rydyn ni’n cynnig gofal cofleidiol i Ysgol Bro Penfro heb unrhyw gostau cludiant.

Mae ein hystafell chwarae yn ystafell chwarae fawr eang, sy'n rhoi cyfle i'r plant ddewis eu gweithgareddau chwarae trwy gydol y dydd. Mae gan yr ystafell fynediad i ardal laswellt gyda chegin fwd a gallwn gael mynediad at lwybrau cerdded trwy'r coed. Cynigiwn ofal a dysgu o safon uchel drwy’r Cwricwlwm i Gymru ac egwyddorion Gwaith Chwarae.

Mae'r ystafell chwarae yn cynnwys:

Ardal Grefft a Chreadigol

Ardal Ddarganfod ac Ymchwilio

Maes Chwarae Datblygiadol/Adeiladu Byd Bach

Chwarae rôl

Mathemateg

Cornel Ymlacio/Cornel Lyfrau

Cornel Cartref

Cerddoriaeth a Gemau

Ardal Adeiladu

Ardal Gerddoriaeth, TG a Chwaraeon

Maes chwarae synhwyraidd/blêr

Contact

Get in touch today!

Golden Manor Nursery:

Golden Manor Maenor Aur Nursery, Golden Lane, Pembroke SA71 4PR

01646 686829

admin@goldenmanorchildcare.co.uk

Monday
7:30 AM - 18:00 PM
Tuesday
7:30 AM - 18:00 PM
Wednesday
7:30 AM - 18:00 PM
Thursday
7:30 AM - 18:00 PM
Friday
7:30 AM - 18:00 PM
Saturday
Closed
Sunday
Closed

Maenor Aur:

Maenor Aur yn Ysgol Bro Penfro, Penfro, Sir Benfro. SA71 4RJ

01646 233115

admin@maenoraur.co.uk

Monday
8:00 AM - 18:00 PM
Tuesday
8:00 AM - 18:00 PM
Wednesday
8:00 AM - 18:00 PM
Thursday
8:00 AM - 18:00 PM
Friday
8:00 AM - 18:00 PM
Saturday
Closed
Sunday
Closed

Golden Manor Contact Form

Name(Required)
Email(Required)
Please let us know what's on your mind. Have a question for us? Ask away.